Abdullah Hayayei o’r Emiradau Arabaidd Unedig (Llun: Gwefan Pencampwriaethau Para-athletau’r Byd/Getty Images)
Fe fu farw para-athletwr o’r Emiradau Arabaidd Unedig ar ôl i gawell y ddisgen gwympo ar ei ben.

Roedd Abdullah Hayayei yn ymarfer yng nghanolfan hamdden Newham yn Llundain yn barod ar gyfer Pencampwriaethau Para-athletau’r Byd pan gafodd ei ladd.

Roedd disgwyl iddo fe gynrychioli ei wlad yn y ddisgen, y siot a’r gwaywffon yn nosbarth F34, wrth i’r cystadlu ddechrau yn y Stadiwm Olympaidd yn Llundain ddydd Gwener.

Cafodd cynhadledd i’r wasg ei chynnal heddiw, ond ni chafodd y manylion eu cyhoeddi bryd hynny oherwydd bod yr heddlu’n dal i ymchwilio i’r digwyddiad.

Ond mae llywydd Pwyllgor Paralympaidd Asia, Majid Rashed bellach wedi cadarnhau sut y bu farw.

Dywedodd fod y gawell wedi glanio ar ben Abdullah Hayayei, a bod nifer o hyfforddwyr a phara-athletwyr wedi gweld y digwyddiad.

Roedd yn dad i bump o blant.

Roedd dyfalu y gallai’r gemau gael eu gohirio o ganlyniad, ond fe fyddan nhw’n mynd yn eu blaen, a bydd tîm yr Emiradau Arabaidd Unedig yn cystadlu.

Mae’r ganolfan hamdden ynghau o hyd.

Fe fydd munud o dawelwch yn cael ei gynnal yn ystod seremoni agoriadol y Pencampwriaethau ddydd Gwener, a bydd rhagor o deyrngedau iddo maes o law.