Geraint Thomas (Llun: Team Sky)
Mae’r Cymro Geraint Thomas allan o ras feics y Tour de France ar ôl torri pont yr ysgwydd heddiw.

Fe ddaeth oddi ar ei feic yn ystod y nawfed cymal o Nantua i Chambery.

Roedd e’n dod i lawr y Col de la Biche ar y pryd.

Roedd e’n ail yn y gystadleuaeth ar ddechrau’r dydd, 12 eiliad y tu ôl i’w gyd-aelod yn Team Sky, Chris Froome.

Dyma bedwerydd gwrthdrawiad y Cymro yn y gystadleuaeth, ond fe dreuliodd e bedwar diwrnod cynta’r Tour yn gwisgo crys melyn yr arweinydd.