Geraint Thomas (Llun: Chris Ham/Etape Cymru)
Mae cystadleuwyr yn Velothon Cymru heddiw yn cael eu hannog i wisgo melyn fel ffordd o ddangos eu cefnogaeth i Geraint Thomas yn y Tour de France.

Mae disgwyl hyd at 15,000 o bobol yng Nghaerdydd ar gyfer y ras heddiw, sy’n debygol o achosi cryn oedi wrth i nifer o ffyrdd gael eu cau.

Mae pob ras unigol yn dechrau ac yn gorffen yng Nghaerdydd, ond yn teithio drwy Gaerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thorfaen.

Dechreuodd y ras amatur 87 milltir am 7 o’r gloch, a’r ras 68 milltir yn fuan wedyn. Bydd y ras broffesiynol yn dechrau am 12.45pm.

Dyma drydedd ras Velothon Cymru.