Geraint Thomas a Chris Froome yn ras 2015
Mae Geraint Thomas wedi colli crys melyn y Tour de France i’w gyd-aelod yn Team Sky, Chris Froome ar ddiwedd y pumed cymal.

Fabio Aru enillodd y pumed cymal o flaen y Gwyddel Dan Martin yn La Planche des Belles Filles.

Roedd Chris Froome yn drydydd yn y ras o flaen Richie Porte, a Geraint Thomas yn ddegfed, gan golli’r flaenoriaeth a enillodd ddydd Sadwrn yn Dusseldorf.

Mae Chris Froome bellach 12 eiliad o flaen y Cymro.

Dim ond dwy waith o’r blaen y mae’r ras wedi ymweld â’r ardal hon, ac enillydd y cymal hwn sydd wedi mynd ymlaen i ennill y Tour de France ar y ddau achlysur – Bradley Wiggins yn 2012 a Vincenzo Nibali yn 2014.