Rhys Williams
Mae athletwr o Gymru wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol oherwydd anaf i’w goes.

Rasio 400m dros y clwydi oedd camp Rhys Williams, ac fe lwyddodd i ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Ewrop yn 2012, ar ôl ennill medal arian ddwy flynedd ynghynt.

Fe gystadlodd yr athletwr 33 oed wedi cystadlu yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012, ac mae’n gobeithio cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn 2018.

Enillodd fedal efydd i Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad 2010, ond methodd â chymryd rhan yng ngemau 2014 wedi iddo fethu prawf cyffuriau.

“Dw i’n Gymro i’r carn a does dim byd yn rhoi mwy o bleser i mi na chystadlu dros fy ngwlad,” meddai Rhys Williams.

“Yn anffodus, mae anaf wedi gorfodi mi gefnu ar y posibiliad o gystadlu eto.”