Geraint Thomas
Mae Tîm Sky wedi enwi eu tîm ar gyfer y Tour De France sy’n dechrau yn Dusseldorf, Yr Almaen ar Orffennaf 1… ac mae’r ddau Gymro, Geraint Thomas a Luke Rowe, wedi cael eu dewis.

Mae Geraint Thomas, 31, wedi gwella o’r anafiadau a ddioddefodd yn y Giro, ac mae’n barod i gefnogi pencampwr y llynedd, Chris Froome, sy’n ceisio ennill y ras am y bedwaredd waith – a’r drydedd waith yn olynol.

Fe fydd Chris Froome yn cael ei gefnogi gan Sergio Henao, Vasil Kiryienka, Christian Knees, Michal Kwiatkowski, Mikel Landa, Mikel Nieve, Luke Rowe a Geraint Thomas.