Scott Davies, ar y dde (Llun o'i gyfrif Twitter)
Ar ôl perfformiad rhagorol yn y Baby Giro yn ddiweddar, mae Scott Davies o Gaerfyrddin wedi ennill y ras yn erbyn y cloc i feicwyr dan-23 yn y Bencampwriaeth Genedlaethol yn Ynys Manaw.

Mae Scott Davies yn seiclo i Dîm Wiggins, ac fe enillodd y ras am y bedwaredd waith yn olynol gyda pherfformiad awdurdodol ar ffyrdd yr ynys.

Fel y  pencampwr oedd yn amddiffyn ei teitl, roedd y Cymro wedi’i osod yn ddiwethaf ar ddechrau’r ras, ond fe orffennodd mewn amser o 28:20.33 i sicrhau bod Tom Baylis o One Pro Cycling yn gorfod bodloni ar y fedal arian mewn amser o 29:09.99.

“Mae’n wych – mae’n deimlad da i ennill am y bedwaredd waith,” meddai Scott Davies wrth golwg360.

“Roeddwn i jyst yn dweud wrtha’ i fy hunan i roi popeth oedd gyda fi. Ac, os oedd hynny’n ddigon, gwych! Eleni yw fy mlwyddyn olaf yn cystadlu dan 23 oed, felly gobeithio y bydd fy amser yn sefyll am sbel.

“Fe fydd yn gam lan i fi y flwyddyn nesaf – dwbwl y pellter – felly mae gen i waith ymarfer!”

Pynjar i Elinor Barker

Yn y gystadleuaeth i ferched gorffennodd yr Olympaidd Elinor Barker o Gaerdydd yn bumed ar ôl cael pynjar, roedd yn gorfod gorffen y 5 cilomedr olaf ar ei beic ffordd.

“Doedd e ddim yn ddiwrnod da i mi,” meddai. “Roedd yn gwrs 22 cilomedr ac roeddwn yn mynd yn eithaf da, wedyn mi gefais y pynjar pan o’n i’n mynd yn sydyn, tua 50 mya, ac fe fu’n rhaid i mi stopio a newid beic… felly fe gollais i dipyn o amser.”

Claire Rose enillodd y ras, gyda Hannah Barnes yn ail, a Katie Archibald yn drydydd.