Dylan Kerfoot-Robson, ar y dde (Llun: Rob Baker Images)
Roedd gwres llethol ar Faes Frenhinol Llanfair ym Muallt, ac roedd Kerfoot-Robson yn dychwelyd i feicio mynydd ar ôl cyfnod ar y ffordd.
A ddydd Sul (Mehefin 18), fe gwblhaodd saith lap o’r cwrs 4.5 cilomedr i fod yn bencampwr y dynion am y trydydd gwaith yn olynol.
“Dw i wrth fy modd i gadw’r teitl am y drydedd flynedd yn olynol,” meddai’r gwr o Sir Ddinbych sy’n rasio yn nhim Wiggins wrth golwg360.
“Roedd yn gwrs gwych, a’r tywydd yn dd. Oedd y rasio’n galed o’r dechrau ac yn gystadleuol, mi gefais fy ngwthio’r holl ffordd i’r diwedd.
“Rwy’n cystadlu yn Ynys Manaw dydd Sul (Mehefin 25) ar y ffordd yn y Bencampwriaeth Rhyngwladol am y tro cyntaf, felly dw i’n mynd am y profiad, does dim pwysau arna’ i i ennill, ond mae gen i ffitrwydd da ar hyn o bryd, felly ga’ i weld sut mae’n mynd ar y diwrnod… mi faswn i’n hapus i orffen yn ugeinfed.
“Fy uchelgais ydi cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia y flwyddyn nesaf,” meddai wedyn. “Mae’n bosib y baswn i’n gallu cystadlu ar y ffordd a beicio mynydd, os ga’ i fy newis.”
Mwy am y dyn
Mae Dylan Kerfoot- Robson, sy’n 21, yn wynebu blwyddyn bwysig.
Fe fydd ei gytundeb gyda Thîm Wiggins yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn, ac fe fydd yn gobeithio y bydd wedi rasio a chael canlyniadau i sicrhau cytundeb arall oherwydd mae’n gobeithio cael gwneud ei farc ar y lefel o dan-23 yn ystod 2018.
Er bod yn rasio dramor does unman fel Gogledd Cymru i seiclo, meddai Dylan Kerfoot-Robson, ac mae wrth ei fodd dod yn ôl i’r gogledd o’i ganolfan yng Nghasnewydd.