Scott Davies, ar y dde (Llun o'i gyfrif Twitter)
Mae’r beiciwr o Gaerfyrddin, Scott Davies, wedi cael wythnos dda yn y Giro d’Italia dan-23.

Mi orffennodd yn ail yn y cymal yn erbyn y cloc ddydd Mawrth, ond ar ôl diwrnod caled ddydd Mercher lle daeth yn 14eg, mae nawr 29 eiliad y tu ôl i’r arweinydd, Pavel Sivakov (Tîm Datblygu BMC ) yn y pedwerydd safle yn gyffredinol.

Mae’r ras yn cael ei hadnabod fel y Baby Giro, a ras eleni yw’r gyntaf i gael ei chynnal ers 2012. Mae’r ras yn atyniad i feicwyr gorau’r byd dan 23 oed.

Mae enwogion fel Francesco Moser, Piotr Ugrumov, Marco Pantani, Gilberto Simoni, Davide Frattini, Dario Cataldo a Carlos Betancu wedi ennill y ras yn y gorffennol.

Mae Scott Davies yn aelod o dîm seiclo Wiggins, tîm sefydlwyd gan Bradley Wiggins er mwyn datblygu beicwyr ifanc.

Mi ddechreuodd y ras ddydd Gwener, Mehefin 9, yn Imola a bydd yn dod i ben heddiw (Mehefin 15) gyda chymal yn gorffen ar gopa Campo Imperatore. Mae’r ras yn cynnwys saith cymal gyda 147 o feicwyr  o naw o dimau proffesiynol gorau ledled Ewrop yn cymryd rhan.