Usain Bolt yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 (Llun: golwg360)
Mae Usain Bolt wedi ennill ei ras 100 metr olaf yn Jamaica, a’r stadiwm yn Kingston yn llawn i ffarwelio ag un o’r enwau mwyaf yn hanes chwaraeon yr ynys.

Bydd y rhedwr 30 oed yn ymddeol ym mis Awst ar ôl Pencampwriaethau’r Byd yn Llundain.

Mae e wedi ennill wyth medal aur Olympaidd, ond mae e’n cyfaddef ei fod e’n nerfus cyn ei ras olaf, er ei fod e wedi ennill yn gyfforddus mewn 10.03 eiliad.

“Roedd y ras yn iawn. Rhaid dweud ei bod yn iawn. Dw i ddim yn credu ’mod i erioed wedi bod mor nerfus wrth redeg 100 metr.”

Medalau a sawl record byd

Usain Bolt sy’n dal y record byd yn y 100 metr (9.58 eiliad) a’r 200 metr (19.19 eiliad), ac mae e wedi ennill y fedal aur yn y 100 metr, y 200 metr a’r 4×100 metr yn y Gemau Olympaidd dair gwaith yn olynol – yn 2008, 2012 a 2016.

Ond fe gollodd e nawfed medal oherwydd bod aelod o’i dîm, Nesta Carter wedi cymryd cyffuriau yn 2008.

Dywedodd ar ôl ei ras ei fod e’n “ddiolchgar” i’w gefnogwyr ar hyd y blynyddoedd.