Aled Sion Davies
Mae naw o Gymry wedi cael eu dewis yng ngharfan Prydain ar gyfer Pencampwriaethau Para-athletau’r Byd yn Llundain y mis nesaf.
Bydd y Pencampwriaethau’n cael eu cynnal yn y Stadiwm Olympaidd rhwng Gorffennaf 14-23.
Ymhlith y sêr fydd yn ymddangos mae taflwr y ddisgen a’r siot, Aled Siôn Davies, oedd wedi ennill dwy fedal aur yn Doha ddwy flynedd yn ôl
Mae’r Cymro Cymraeg o Ben-y-bont ar Ogwr wedi taflu pellter o 17.40 metr yn y siot a 54.85 metr yn y ddisgen ar ei ffordd i lwyddiant byd-eang.
Y Cymry yn y garfan
Hollie Arnold – gwaywffon F46
Olivia Breen – naid hir, 100m a’r ras gyfnewid 4x100m T38
Aled Siôn Davies – siot a disgen F42
Kyron Duke – siot F41
Sabrina Fortune – siot F20
Jordan Howe – 100m T35
Rhys Jones – 100m T37
Stephen Morris – 800m, 1500m a 5000m T20
Laura Sugar – 100m a 200m T44