Ifan Richards, beiciwr mynydd y Brithdir
Mae’r gŵr o Feirionydd a gafodd ei goroni’n enillydd y rhaglen deledu antur, Ar y Dibyn, yn ymarfer am her newydd yr haf hwn.

Mae Ifan Richards o Frithdir ger Dolgellau, yn cymryd rhan yn ras BIKE Transalp ym mis Gorffennaf – her fydd yn cymryd saith diwrnod i’w chwblhau, yn 655 cilomedr o hyd, ac yn golygu dringo i uchder o 18,000 o fetrau ar ei feic mynydd.

Mae’r ras yn cael ei chynnal am yr ugeinfed tro, ac yn cael ei nabod fel un o’r rasys beicio mynydd gyda’r mwyaf ysblennydd o ran golygfeydd ym mynyddoedd yr Alpau. Ras i bara ydi hi, ac ochr yn ochr ag Ifan Richards fe fydd ei gyd-feiciwr, Phil Roberts.

Mae’r cymal gyntaf o saith yn dechrau yn Mayrhofen yn Awstria ar Orffennaf 16 gyda thua mil o gystadleuwyr, ac yn gorffen yn Riva del Garda ger Llyn Garda yn yr Eidal ar Orffennaf 22.

“Mae’r Transalp wedi bod yn ras dw i wedi bod eisiau ei gwneud ers rhai blynyddoedd ond wedi methu ei gwneud am un rheswm neu llall,” meddai Ifan Richards wrth golwg360. “Dw i wedi bod yn rasio beic mynydd ers 2003 mewn gwahanol fathau o rasys, sef XC (trawsgwlad, rasys byr awr a hanner), rasys marathon un diwrnod rhwng 60km a 100km, a hefyd rasys 24 awr.

Tour De France beicio mynydd

“Mi enillais i a fy nghydweithiwr y ras saith niwrnod Transwales yn 2008, oedd yn dipyn o her ond perfformiad cryf gan y ddau ohonon ni dros y cyfnod saith niwrnod fuom yn fuddugol,” meddai Ifan Richards wedyn. “Ers hynny mae’r Transalp wedi bod yn darged…

“Y Transalp ydi’r ras saith niwrnod mwyaf poblogaidd yn y byd, y ras saith niwrnod gyda’r hanes hiraf yn y byd a’r ras mae pob beiciwr mynydd eisiau ei chwblhau. Mae hi fel y ‘Tour de France’ y byd beicio mynydd. Mae cystadleuwyr yn dod o bob man yn y byd, ac mae hynny’n gwneud y ras yn un heriol iawn a’r safon yn uchel.

“Ras i barau ydi’r Transalp, mae 500 tîm yn y ras ac mae hi’n cael ei rasio gan bersonél proffesiynol y byd beicio mynydd, felly mae Phil a finnau jyst yn gobeithio y medrwn ni orffen y ras yn y lle cynta’…

“Ond o ran perfformiad, mi fasa gorffen yn y cant uchaf, allan o 500 o barau, yn ganlyniad da i ni. Gawn ni weld. Dydi hi ddim yn mynd i fod yn hawdd.”

Uchder yn factor

Mae’r ymarfer wedi dechrau ers mis Mawrth ac mae Ifan a Phil yn ymarfer tua 20 awr yr wythnos erbyn hyn, yn cynnwys beicio mynydd, beicio ffordd a lot o sesiynau penodol iawn i gryfhau’r dringo, magu pŵer a chynnal stamina dros gymalau a fydd yn golygu rhwng 80km a 105km, a dringo rhwng 2000m a 3,500m.

“Fydd rhaid cyrraedd y ras yn ein ffitrwydd gorau,” meddai Ifan Richards. “Fe fydd raid cael y pwysau i lawr i ddeg stôn. Bydd yr uchder hefyd yn ffactor gan fod dipyn o’r cymalau yn cael eu rasio ar i fyny at 2,400m uwch lefel y môr.

“Mi fydd hi’n ras galed iawn ar y corff a’r meddwl, ond mi wnawn ni ein gorau glas.”

Ym mis Ebrill, mi fentrodd Ifan Richards ar ras y Scott Mtb Marathon, her galed ar lwybrau beicio mynydd ger Llanfair ym Muallt ym Mhowys, a gymerodd 3 awr a 25 munud i gwblhau 65km. Fe groesodd y llinell derfyn yn y 25ain safle, a’i bartner Transalp yn y 17eg safle allan o 470 o gystadleuwyr.

“Roedd yn ras galed, ond roeddan ni’n hapus gyda’r ffitrwydd a’r perfformiad… er, mae ganddon ni waith i’w wneud cyn Gorffennaf!” meddai.

“Mae gen i gwpwl o rasys i’w gwneud cyn y Transalp, ond mae’r ffocws fwyaf ar yr ymarfer gan fydd gormod o rasio yn mynd i achosi blinder, sydd yn mynd i effeithio’r ymarfer.”