Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi rhoi’r gorau i rasio yn y Giro d’Italia ar ôl y ddamwain ar gymal naw ddydd Sul.

Roedd wedi cael niwed i’w ysgwydd a’i ben-glin; ond roedd wedi cael diwrnod da ddydd Mawrth yn y ras yn erbyn y cloc unigol gan orffen yn ail. Er hynny roedd effaith y ddamwain wedi  amharu arno ac mi benderfynodd mai‘r peth gorau oedd rhoi’r ffidil yn y to.

Dywedodd Thomas:“Rwyf wedi bod yn dioddef ers y ddamwain dydd Sul. Rwyf â phroblem gyda fy ysgwydd, ond dw i wedi gallu’i reoli, ond mae fy mhen-glin yn gwaethygu bob diwrnod.

“Yn amlwg, tydi ddim yn dda i dynnu nôl o unrhyw ras yn enwedig pan mae’n brif nod eich tymor, ond mae’n rhaid edrych ar y darlun mawr. Baswn wrth fy modd yn gallu gorffen y ras, ond ceisio goroesi buaswn i ac nid rasio.

“MI wna i droi’n sylw nawr at y Tour De France, a cheisio cyrraedd mewn cyflwr da fel oeddwn yn dechrau’r Giro.

“Rwyf eisiau ddiolch i bawb yn y tîm, rwyf hefyd wedi mwynhau seiclo yn yr Eidal, mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych.”

Gweithio’n galed

Roedd canmoliaeth gan Syr Dave Brailsford i’r Cymro ac mi eglurodd y penderfyniad i’r wasg:

“Mae’n hynod o drist i Geraint. Roedd wedi gweithio’n galed i gyrraedd y Giro mewn cyflwr gwych ac mi roedden yn edrych ymlaen  at ei weld o’n cystadlu.

“Fel yr arfer, mae wedi ymddangos faint o galon, a faint o gystadleuwr ydyw ond mae effaith y ddamwain wedi amharu arno .

“Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod ei anafiadau yn cael eu rheoli, a sicrhau ei ffitrwydd, ac wedyn trefni dargedau newydd.”