Mae Athletau Cymru wedi cyhoeddi y bydd chwe athletwr yn mynd i’r Bahamas i gystadlu yng ngemau ieuenctid y Gymanwlad yn ystod mis Gorffennaf eleni.

Roedd pedwar athletwr wedi cyrraedd y safon angenrheidiol i gael eu henwebu i fod yn aelodau o Dîm Cymru:

Disgen – James Tomlinson (Hyfforddwr: Paul Jenson / Clwb Harriers Sir Benfro)

Trac – 3000m Oliver Barbaresi (Hyfforddwr: Andy Walling / Clwb Menai Trac)

Gwaywffon – Bethany Moule (Hyfforddwr: John Davies / Clwb Harriers Castell Nedd).

Taflwr maen – Sarah Omoregie (Hyfforddwr: Gareth Lease / Clwb Caerdydd AAC).

At y rhain, mae Lauren Evans a Naomi Reid wedi’u dewis fel rhan o’r garfan o 39 o aelodau.

Profiad bythgofiadwy

“Rydan ni, wrth gwrs, wrth ein boddau bod Tîm Cymru wedi dewis chwech o’r goreuon o dan-18 i gynrychioli Cymru,” meddai Scott Simpson, y Pennaeth Hyfforddi.

“Bydd yn anrhydedd iddyn nhw wisgo’r crys, a bydd hefyd yn brofiad bythgofiadwy. Mi ddylen nhw i gyd fod yn falch iawn ohonyn nhw’u hunain, ac rydan ni’n dymuno’n dda iddyn  nhw yn eu paratoadau dros yr wythnosau i ddod ac rydan yn edrych ymlaen at weld nhw’n perfformio yn y gemau hwyrach yn yr haf.”

Bydd y gemau’n cael eu cynnal Gorffennaf 19-23.