Peredur ap Gwynedd (Llun: BBC)
Mae sylwebydd seiclo yn rhagweld y bydd y beiciwr o Gaerdydd, Geraint Thomas, yn cael tymor da yn arwain tim Sky eleni – a hynny oherwydd ei fod wedi datblygu i fod yn ddringwr da yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

“Eleni fe welwn ni Geraint Thomas o Gymru, a Mikel Landa o Wlad y Basg, yn cyd-arwain Team Sky yn y Giro d’Italia,” meddai Peredur ap Gwynedd. “Dyma’r tro cyntaf i Gymro cael yr anrhydedd o arwain tîm mewn ‘Grand Tour’.

“Fel cadfridog i Bradley Wiggins a Chris Froome, mi welson ni Geraint yn cystadlu yn y Tour de France, y Vuelta a Espana (y ddau GT arall) a’r Giro yn y gorffennol.

“Mae rheolwr Team Sky, Dave Brailsford, a fu fyw yn Neiniolen pan oedd yn blentyn, wedi gweld potensial Geraint fel arweinydd ers rhai blynyddoedd bellach, yn enwedig ar ôl iddo ennill y Volta ao Algarve ddwywaith, ac yn bwysicach fyth, ei fuddugoliaeth yn ras Paris-Nice y llynedd.

“Er mwyn ennill ras fel y Giro, mae’n rhaid bod yn feiciwr amryddawn, ac yn y blynyddoedd diwethaf, mae Geraint wedi newid o fod yn arbenigwr rasio un diwrnod a beiciwr ar y trac, i fod yn ddringwr cryf iawn. Yn ychwanegol i’w dalent fel rasiwr yn erbyn y cloc, mae e nawr yn un o’r ffefrynnau i godi tlws y Giro, sef y Trofeo senza fine, ym Milan ddiwedd Mis Mai.

“Enillodd Geraint y ras Taith yr Alpau ychydig wythnosau’n ol, felly mae ei baratoad wedi ei blesio,” meddai Peredur ap Gwynedd wedyn. “Alla i ddim aros i gyrraedd y Giro nawr a rasio.”

Teyrnged i Michele Scarponi

Yn ddiweddar bu farw un o enwogion y byd seiclo, Michele Scarponi.

“Tristwch oedd clywed am farwolaeth Michele Scarponi o dîm Astana,” meddai Peredur ap Gwynedd. “Fe oedd enillydd y Giro (ar ôl i Alberto Contador cael ei wahardd) yn 2011.

“Cafodd ddamwain wrth ymarfer ar ei feic. Fe oedd yn mynd i arwain ei dîm eleni eto. Fel arwydd o barch iddo, fydd Astana yn cychwyn y Giro gydag wyth o feicwyr yn hytrach na naw.”