Geraint Thomas
Mae Geraint Thomas wedi dweud ei fod e’n “barod” ar gyfer ras feics y Giro d’Italia yn yr Eidal.

Hon fydd y canfed ras ac fe fydd yn cynnig her i’r Cymro sydd wedi hen ymgyfarwyddo â’r ffordd ar ôl cyfnod llwyddiannus ar y trac lle mae e wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd.

Yn aelod o Team Sky, fe fu Geraint Thomas yn cefnogi Chris Froome dros y blynyddoedd diwethaf, ond fe fydd e’n mynd amdani drosto fe ei hun pan fydd y ras yn dechrau yn Sardinia ddydd Gwener.

Fe gafodd e hwb fis diwethaf hefyd ar ôl ennill Taith yr Alpau.

“Mae fy mharatoadau wedi mynd yn dda iawn a dw i’n barod. Alla i ddim aros i fynd yno nawr,” meddai.

Pe bai’n llwyddo i ennill y ras, fe fydd e’n cyflawni rhywbeth nad yw’r un o aelodau Team Sky wedi llwyddo i’w wneud o’r blaen.

Dywedodd pennaeth Team Sky, y Cymro Dave Brailsford, eu bod nhw wedi dewis “tîm fydd yn gallu cefnogi ein dau arweinydd”.

Ar ôl gadael Sardinia, bydd y ras yn mynd i Sicily ac Etna cyn mynd i nifer o drefi a gorffen ym Milan ar Fai 28.