Josh Griffiths, o Abertawe (Llun - o'i gyfrif Twitter)
Mae Josh Griffiths o glwb Harriers Abertawe wedi cyrraedd Pencampwriaethau’r Byd ar ôl cwblhau Marathon Llundain mewn dwy awr, 14 munud a 49 eiliad ddydd Sul.

Dyma oedd ei farathon cyntaf, a fe oedd yr athletwr cyntaf o wledydd Prydain i orffen y ras.

Gorffennodd e’r ras yn drydydd ar ddeg ar y cyfan.

Cafodd ras y dynion ei hennill gan Daniel Wanjiru o Kenya mewn 2:05:56.

Dywedodd  Josh Griffiths ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru y bore ma ei fod wedi “methu credu beth oedd wedi digwydd” wrth iddo groesi’r llinell derfyn a’i fod yn ystyried cael hyfforddwr ar gyfer Pencampwriaethau’r Byd.