Marathon Llundain (Llun: PA)
Cafodd record byd ei thorri yn ras y menywod ym Marathon Llundain, wrth i Mary Keitany o Kenya ennill mewn dwy awr, 17 munud ac un eiliad.

Cafodd y record flaenorol o ddwy awr 17 munud a 42 eiliad ei gosod gan Paula Radcliffe yn 2005.

Ond Paula Radcliffe sydd â’r record gymysg o hyd, sef dwy awr 15 munud a 25 eiliad.

Daniel Wanjiru o Kenya enillodd ras y dynion wrth iddo wrthsefyll pencampwr y byd Kenenisa Bekele, a chipiodd David Weir goron y ras gadeiriau olwyn am y tro cyntaf ers 2012, gan orffen mewn awr 31 munud a chwech eiliad, gan guro Marcel Hug o’r Swistir o un eiliad yn unig.

Mae David Weir bellach wedi ennill saith Marathon yn Llundain, gan guro record y Fonesig Tanni Grey-Thompson.

Manuela Schar o’r Swistir enillodd ras gadeiriau olwyn y menywod.