Mae cwmni chwaraeon Adidas wedi ymddiheuro am anfon neges e-bost ansensitif yn llongyfarch rhedwyr Marathon Boston am “oroesi” y ras.

Cafodd y neges ei hanfon at redwyr ddydd Mawrth.

Y neges lawn oedd “Llongyfarchiadau, wnaethoch chi oroesi Marathon Boston”.

Cafodd y cwmni eu beirniadu’n llym ar wefannau cymdeithasol.

Yn dilyn yr helynt, ymddiheurodd y cwmni am fod yn “ansensitif”.

Marathon 2013

Cafodd tri o bobol eu lladd a thros 260 o bobol eu hanafu yn ystod Marathon Boston yn 2013 ar ôl i ddau fom gael eu ffrwydro ger y llinell derfyn.

Ac fe gymerodd o leiaf ddau o bobol oedd wedi goroesi’r ffrwydradau ran yn y ras eleni.

Ymddiheuriad llawn

Mewn datganiad, cyhoeddodd Adidas ymddiheuriad llawn gan ddweud bod yn “ddrwg iawn” ganddyn nhw.

“Yn amlwg, doedd dim ystyriaeth i linell pwnc ansensitif yr e-bost wnaethon ni ei hanfon ddydd Mawrth.

“Rydym yn ymddiheuro’n fawr am ein camgymeriad.

“Mae Marathon Boston yn un o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf ysbrydoledig yn y byd.

“Bob blwyddyn, cawn ein hatgoffa o obaith a gwytnwch y gymuned redeg yn y digwyddiad hwn.”