Elinor Barker (Llun: PA)
Mae Elinor Barker wedi cipio medal aur ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac y Byd yn Hong Kong.

Daeth ei thrydedd medal yn ras bwyntiau’r merched.

Roedd hi eisoes wedi ennill dwy fedal arian.

Cipiodd hi’r fedal aur gyda 59 o bwyntiau, o flaen Sarah Hammer o’r Unol Daleithiau (51) a Kirsten Wild o’r Iseldiroedd (35).

Dyma’r trydydd tro i Elinor Barker, 22 o Gaerdydd, fod yn bencampwraig y byd yn dilyn ei llwyddiant yn 2013 a 2014.

‘Ofnadwy’

Ond ar ôl y ras, dywedodd Elinor Barker ei bod hi’n “ras ofnadwy”.

“Ro’n i’n lwcus, sbo, fod bwlch rhyngof fi a Sarah Hammer a’r gweddill ac felly doedd dim rhaid i fi sgorio yn y ras wib olaf.

“Dw i wedi dod mor agos sawl gwaith. Dw i’n teimlo ’mod i’n forwyn briodas gyson yn y ras.

“Dw i’n trio dysgu o flynyddoedd o gamgymeriadau.”