Elinor Barker (Llun;SWPix)
Mae’r feicwraig, Elinor Barker, wedi ennill medal arian heddiw yn Ras y Scratch, ar ôl chael ei  threchu ar y funud ola’ ym mhencampwriaeth seiclo trac y byd yn Hong Kong.

Rachele Barbieri o’r Eidal lwyddodd i gipio’r aur, ac fe lwyddodd i herio’r Gymraes gyda thair lap i fynd (allan o 40) gan arwain y ras wedyn bron at y diwedd.

“Es i dipyn bach yn rhy sydyn o’r dechrau,” meddai Elinor Barker, “a wnes i dalu’r pris yn y diwedd. O’n i jyst ddim yn ddigon sydyn.

“Llongyfarchiadau i Rachele, ond rwy’n hynod o siomedig.”

Yn y ras i dimau, mae’r Gymraes, Manon Lloyd, wedi gwneud ei hymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth, ac fe ddaeth ei thîm yn bumed gydag amser personol gorau o 4:21.548. Felly, fe fyddan nhw’n cystadlu yn y rownd gynta’ fory (ddydd Iau).