Dathlu llwyddiant athletwyr Cymru wedi Gemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 (Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae union flwyddyn i fynd tan seremoni agoriadol Gemau’r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur yn Awstralia.

Bydd tua 300 o athletwyr o Gymru yn ymuno â Thîm Cymru er mwyn cystadlu yn y gemau 11 diwrnod o hyd, a fydd yn dechrau ar Ebrill 4 2018.

Gobaith y tîm yw ailadrodd eu llwyddiant yng Ngemau’r Gymanwlad Glasgow yn 2014 lle enillodd y tîm 36 o fedalau – y nifer uchaf erioed i Gymru.

O’r 70 o genhedloedd y Gymanwlad sydd yn cystadlu yn y Gemau, mae Cymru ymysg chwe gwlad yn unig sydd wedi cystadlu ym mhob un o’r Gemau ers iddyn nhw ddechrau yn 1930.

Paratoadau

Mae Tîm Cymru eisoes wedi dechrau paratoi ar gyfer y gemau, gydag athletwyr yn gweithio’n galed i geisio sicrhau lle ar y tîm.

“Rydyn ni wedi penodi ein holl staff ac wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r cyrff llywodraethu cenedlaethol ar y paratoadau,” meddai Chef de Mission Cymru ar gyfer Gemau 2018, yr Athro Nikki Phillips.

“Rydyn ni hefyd wrthi’n gwneud trefniadau ar gyfer teithio a llety yn Awstralia. Er na fydd y Tîm yn cael ei ddewis tan yn ddiweddarach eleni, rydyn ni’n barod wedi dechrau mesur athletwyr ar gyfer y cit.”