Brett Johns Llun: S4C
Wrth i gyfres newydd Y Ffeit ar S4C roi sylw i grefftau ymladd cymysg (MMA) am y tro cyntaf nos Fercher, bydd yr ymladdwr o Bontarddulais, Brett Johns yn amnewid y gawell am y meicroffon.

Dechreuodd y gyfres yr wythnos diwethaf, gan roi sylw yn y rhaglen gyntaf i ornestau paffio.

Yn ystod y gyfres o chwe rhaglen, bydd paffio ac MMA yn cael sylw am yn ail a hon yw’r rhaglen gyntaf yn rhoi sylw i’r crefftau ymladd cymysg.

Bydd Brett Johns, sy’n 25 oed, yn ymuno â’r cyflwynydd Rhys ap William a’r sylwebydd profiadol Gareth Roberts ar gyfer uchafbwyntiau o ornestau a gafodd eu cynnal yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli.

Bydd y rhaglenni MMA eraill ar Ebrill 19 o Theatr y Pafiliwn yn Y Rhyl ac ar Fai 3 o Theatr y Grand yn Abertawe.

Dywedodd Brett Johns: “Rwy’n hoffi siarad am MMA. Rwy’n caru’r gamp. Dyna yw fy ngwaith, ond rwy’n hoffi gwylio ffeits hefyd.

“Rwy wedi ennill dau deitl y byd, ac wedi ymladd yn yr UFC, felly rwy’n gwybod lot am y gamp.

“Fe fydd e’n neis iawn eistedd ar ochr arall y gawell a siarad amdano fe.”

Mae Brett Johns yn un o dri Chymro yn yr UFC, ynghyd â Jack Marshman a John Phillips ac mae “Cymru’n dechrau gwneud enwi iddi ei hun” yn y byd MMA, meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at chwarae fy rhan yn Y Ffeit, ac yn edrych ymlaen at weld sut mae’r ymladdwyr newydd yn gwneud.”

Brett Johns: Ymladdwr UFC

Daw’r gyfres newydd ychydig wythnosau ar ôl i S4C ddarlledu’r rhaglen ddogfen Brett Johns: Ymladdwr UFC, oedd yn dilyn hynt a helynt ei ymdrechion i gyrraedd yr UFC, y lefel uchaf yn y byd crefftau ymladd cymysg.

Mae ganddo fe record o 13 o ornestau’n ddiguro ac roedd disgwyl iddo ymladd yn erbyn y Sais Ian Entwistle yn yr O2 yn Llundain ychydig ddiwrnodau ar ôl i’r rhaglen ddogfen gael ei darlledu.

Ond fe fu’n rhaid i’w wrthwynebydd dynnu allan o’r ornest, gan amddifadu Brett Johns o’r cyfle i ymladd ar yr un cerdyn â’i arwr Brad Pickett, oedd yn dod â’i yrfa i ben y noson honno.

“Yn y weigh-in, roedd Entwistle dri phwys dros ei bwysau, ond doedd dim ots gen i am hynny. Ond y diwrnod wedyn, cefais i alwad yn dweud fod e’n tynnu mas.

“Roeddwn i’n gwybod bod e’n gallu ymladd, ond bod o ‘di dewis yr opsiwn hawdd a thynnu mas. Doeddwn i ddim yn hapus o gwbl.”

Stockholm ym mis Mai?

Fis nesaf, mae Brett Johns yn gobeithio cael cyfle arall i ymladd yn yr UFC yn Stockholm yn Sweden, a hynny yn erbyn Henry Briones o Fecsico.

“Mae e’n dweud bod o’n hapus iawn i ymladd yn erbyn fi. Dwi ddim eisiau mynd trwy beth wnes i fynd trwyddo fis diwethaf eto.

“Mae Henry Briones yn ddyn sy’n ymladd 100%.”

Bydd cynhyrchiad Antena a Tanabi, Y Ffeit ar S4C nos Fercher am 9.30yh (is-deitlau Saesneg ar gael), a bydd y rhaglen ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill.