Mark Williams (Llun: pokerstars.com)
Mae Mark Williams wedi colli o 10-8 yn erbyn y Sais a phencampwr y byd, Mark Selby yn ffeinal Pencampwriaeth Agored China.

Byddai buddugoliaeth wedi ei godi i 16 uchaf rhestr detholion y byd, gan roi lle awtomatig iddo ym Mhencampwriaeth y Byd yn Sheffield.

Hwn yw pedwerydd tlws y Sais y tymor hwn.

Dydy Mark Williams ddim wedi ennill cystadleuaeth dethol ers 2011.

Bydd rhaid i’r chwaraewr llaw chwith o Went ennill tair gêm o dair ffrâm yr un er mwyn cyrraedd y 32 fydd yn mynd i’r het yn Sheffield.