Mark Williams (Llun: thepokerstars.com)
Mae Mark Williams wedi sicrhau ei le yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored China ar ôl curo Hossein Vafaei o Iran o chwe ffrâm i un.

Bydd y Cymro llaw chwith yn herio Mark Selby yn y rownd derfynol ddydd Sul.

Mae angen iddo ennill y gystadleuaeth er mwyn dychwelyd i 16 ucha’r rhestr detholion a chymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth y Byd.