Y Ffeit (Llun: S4C)
Fe fydd S4C yn darlledu gornestau paffio a chrefftau ymladd cymysg (mixed martial arts) fel rhan o gyfres newydd sy’n dechrau nos Fercher (Mawrth 29).

Bydd Y Ffeit, cynhyrchiad gan Antena a Tanabi, yn gyfres o chwe rhaglen awr o hyd, gyda thair rhaglen yn rhoi sylw i baffio a thair rhaglen yn canolbwyntio ar MMA.

Uchafbwyntiau o noson o baffio yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful fydd yn y rhaglen gyntaf nos Fercher, a gornestau MMA yn Theatr Ffwrnes, Llanelli fydd yn cael y sylw yr wythnos ganlynol.

Bob wythnos, fe fydd y rhaglen yn cyflwyno cyfres o eitemau am ddatblygiad y ddwy gamp yng Nghymru, ac yn rhoi sylw i rai o dalentau mwyaf cyffrous a chymeriadau mwyaf lliwgar byd y campau ymladd.

Bydd cyfle hefyd i glywed gan rai o’r sêr mewn cyfweliadau ar ddiwedd gornestau a gan arbenigwyr sy’n mynychu’r digwyddiadau.

‘Hwb aruthrol’

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Mae bocsio wedi mwynhau dilyniant cryf yng Nghymru erioed ac mae MMA yn gamp sy’n tyfu mewn poblogrwydd.

“Bydd Y Ffeit yn canolbwyntio ar y gornestau a’r newyddion diweddaraf o’r ddwy gamp.  Dyma lwyfan arall i ddangos talent addawol Cymru ac edrychwn ymlaen at ddangos gornestau o safon.”

Ychwanegodd y trefnydd nosweithiau bocsio, Jamie Sanigar: “Mae’r gyfres hon yn hwb aruthrol i focsio yng Nghymru ac mae’n ein galluogi ni i ddangos rhai o dalentau gorau Cymru ar S4C.

“Rydym yn bwriadu dangos gornestau pencampwriaeth Cymru yn ogystal â chystadlaethau rhyngwladol sy’n cynnwys bocswyr o Gymru. Y gobaith yw y bydd hyn yn helpu denu mwy o gefnogwyr i’r gamp.”

Ychwanegodd rheolwr y cwmni hyrwyddo MMA Adrenalin Fight Nights, James Wallis: “Mae MMA wedi dod yn boblogaidd iawn yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, yn enwedig ar ôl i’r Cymry Brett Johns a Jack Marshman ennill yn yr UFC ym mis Tachwedd 2016, ac ar ôl i John Phillips hefyd gael ei arwyddo.

“Rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gyfres newydd S4C, ac i ddangos y gamp i gynulleidfa newydd ar deledu sydd ar gael i bawb.”

Mae cyfres Y Ffeit (cynhyrchiad Antena a Tanabi) yn dechrau nos Fercher am 9.30pm ar S4C, ac fe fydd y gyfres ar gael ar alw ar s4c.cymru, iPlayer a llwyfannau eraill.

Am fwy o wybodaeth am y gyfres, dilynwch @YFfeit_S4C at Twitter.