Enillodd Devils Caerdydd y gynghrair hoci iâ nos Sadwrn am y tro cyntaf ers 20 mlynedd.

Roedden nhw’n fuddugol o 6-2 yn erbyn y Sheffield Steelers yn Sheffield, gan gyflawni’r dwbwl dros eu gwrthwynebwyr ar ôl eu curo nhw yn y Cwpan Her.

Aeth y Devils ar y blaen o 2-0 drwy Mark Richardson a Patrick Asselin, cyn i Ben O’Connor dar nôl i’r Steelers.

Ond ymestyn eu mantais wnaeth y Devils unwaith eto, a hynny wrth i Joey Martin rwydo i’w gwneud hi’n 3-1.

Daeth pedwaredd gôl y Devils drwy Sean Bentivoglio, cyn i Geoff Walker sgorio ail gôl y Saeson.

Andrew Lord sgoriodd bumed gôl y Devils, a daeth chweched gôl i rwyd wag gan Patrick Bordeleau.

Bydd y Devils yn derbyn tlws y gynghrair cyn eu gêm heno yn erbyn y Fife Flyers yng Nghaerdydd.