Brett Johns (Llun: Tanabi/S4C)
Mae ffeit fawr yr ymladdwr campau ymladd cymysg o Bontarddulais, Brett Johns yn yr O2 heno wedi cael ei chanslo ar ôl i’w wrthwynebydd Ian Entwistle dynnu nôl.

Roedd yr ornest UFC (Ultimate Fighting Championship) eisoes wedi cael ei symud i gategori agored ar ôl i’r Sais fethu â chyrraedd y terfyn pwysau angenrheidiol ar gyfer pwysau bantam o 136kg.

Ond daeth cadarnhad ychydig oriau cyn yr ornest fod meddygon wedi ei gynghori i beidio ag ymladd.

Dyma’r ail waith o fewn pum mis i’r Sais dynnu’n ôl o ffeit, ar ôl i sefyllfa debyg godi ym Manceinion ym mis Hydref.

Mae amheuon bellach am ddyfodol Ian Entwistle yn yr UFC.