Gerwyn Price Llun: Wikipedia
Mae cyn-chwaraewr rygbi proffesiynol sydd wedi troi at fyd y dartiau, wedi dod yn ail yn ei bencampwriaeth fawr gynta’ ar deledu dros y Sul.

Gerwyn Price oedd gwrthwynebydd Peter Wright yn ffeinal pencampwriaeth agored y PDC yn Minehead neithiwr, dair blynedd yn unig ers rhoi’r gorau i ennill ei fara menyn gyda chlwb rygbi Cross Keys.

Y Sgotyn Peter ‘Snakebite’ Wright oedd enillydd y wobr ariannol o £70,000, ond roedd Gerwyn Price, sy’n dod o Gaerffili, wedi rhoi her iawn iddo.

Cyn hynny, roedd wedi curo Justin Pipe, David Pallett a Paul Hogan cyn cyrraedd y rownd gynderfynol. Yn y rownd honno, fe gurodd Alan Norris 11-9.