Llun: Seiclo Cymru
Mae ardal Llyn Brenig wedi ei dewis i gynnal Pencampwriaeth Beicio Ffordd Cymru ar ddydd Sul, Awst 20 eleni.

Mae’r cwrs yn ugain milltir o hyd gyda chyrsiau heriol, a bydd y digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Glwb Beicio VC Melyd.

“Mae’r clwb a finnau yn edrych ymlaen at gynnal y ras ac  i weld beicwyr gorau Cymru yn beicio drwy’r ardal hyfryd ger Llyn Brenig – rydan ni’n gobeithio y cawn eich gweld chi ym mis Awst,” meddai’r trefnydd, Simon Parkinson.

“Rydan ni wrth ein boddau bod clwb VC Melyd yn cynnal y ras – mae’n uchafbwynt y calendr yng Nghymru,” meddai Anne Adams-King, Prif Weithredwr Seiclo Cymru, wedyn.

“Mae’r cwrs ar ffiniau Parc Cenedlaethol Eryri, yn cynnig golygfeydd syfrdanol o dirwedd Cymru, a chwrs heriol i’r beicwyr. Rwy’n edrych ymlaen at groesawu clybiau Cymru i gefnogi’r bencampwriaeth.”

Bydd ras y rhai hŷn ac ieuenctid yn 63 milltir, a’r merched yn 42 milltir o hyd.

Gyda mwy na 170 o glybiau a 6000 o aelodau yng Nghymru, mae’r ras yn rhoi cyfle i’r gymuned seiclo ddod at ei gilydd i gefnogi’r digwyddiad.

I gymryd rhan yn y ras mae’n rhaid i feicwyr fod yn gymwys trwy:

  • Fod wedi cael eu geni yng Nghymru
  • Fod â rhiant wedi eu geni yng Nghymru
  • Fod wedi byw yng Nghymru am bum mlynedd cyn y ras