Mae tîm hoci iâ Devils Caerdydd wedi ennill y Cwpan Her yn dilyn buddugoliaeth 3-1 yn erbyn  Sheffield Steelers prynhawn dydd Sul.

Gleason Fournier o Gaerdydd sgoriodd gyntaf yn ystod cyfnod agoriadol y gêm, ond tarodd y Steelers yn ôl wrth i Robert Dowd a Mathieu Roy arwain Sheffield i 2-1 wedi ugain munud o chwarae.

Daeth unig bwynt yr ail gyfnod o Devils Caerdydd wrth i Mark Louis daro saethiad gan Joey Martin i’r gôl gan arwain at sgôr gyfartal o 2-2.

Yn ystod cyfnod olaf y gêm llwyddodd Devils Caerdydd i gynyddu’r pwysau ar Sheffield, gyda Layne Ulmer yn sgorio trydedd gôl i Gaerdydd.

Gwnaeth Sheffield daro yn ôl yn ystod dwy funud olaf y gêm ond llwyddodd Caerdydd i wrthsefyll yr ymosodiad gan ennill y cwpan.

Gêm nesaf Devils Caerdydd  fydd gem gynghrair ddydd Sadwrn yn erbyn Dundee Stars yng Nghaerdydd.