Mae’r paffiwr Michael Watson wedi disgrifio’r “hunllef” o gael ei lusgo gan gar yr oedd yn teithio ynddo.

Roedd y paffiwr, sydd mewn cadair olwyn yn dilyn anafiadau difrifol mewn gornest yn 1991, yn teithio yn y car pan gafodd ei ddwyn yn Chingford yn nwyrain Llundain.

Fe fydd y digwyddiad yn cael sylw ar raglen Crimewatch y BBC nos Lun am 9 o’r gloch.

Fe fydd Michael Watson yn siarad ar y rhaglen, ac fe fydd lluniau camera cylch-cyfyng yn cael eu dangos am y tro cyntaf.

Dywedodd Michael Watson: “Roedd fel hunllef. Allwn i ddim credu ei fod yn digwydd.

“Roedd hi’n teimlo fel pe bai fy nghroen yn cael ei grafu i ffwrdd. Ro’n i’n dal yn sownd wrth fy mywyd.”

Cafodd ei ffrind Lennard Ballack, oedd yn gyrru’r car, anafiadau hefyd ar ôl i’r sawl oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad chwistrellu sylwedd i’w lygaid.

Mae Michael Watson wedi apelio am wybodaeth gan dystion i’r digwyddiad ar Chwefror 16.