Elinor Barker, (Llun;SWPix)
Yn rasio i dîm Prydain enillodd Elinor Barker, 22, o Gaerdydd fedal efydd yn ras y ‘Scratch’, gyda Tetyana Klimchenko o’r Wcráin a Jasmine Duehring o Ganada yn lapio’r gweddill gyda’r beicwraig o’r Wcráin yn ennill y fedal aur.

Fe wynebodd Elinor Barker lap olaf caled i gipio’r fedal efydd.

Roedd Elinor Barker ac Ellie Dickinson yn rasio yn y Madison ac mi orffennodd yn bumed, ond dychwelodd Barker yn ôl i’r trac lle cyrhaeddodd y  podiwm i gymryd y fedal efydd – yr unig fedal i Brydain dros y penwythnos.

“Dwi’n hapus â’r canlyniad oherwydd yr amgylchiadau,” meddai Barker.

“Roedd mor agos i’r Madison, ond chwarter awr oedd rhwng y ddwy ras.  Y cynllun oedd i mi gymryd risg ac eistedd i mewn am y sprint, gyda deg lap i fynd r oeddwn yn dechrau meddwl fy mod am ennill ond llwyddodd dwy feicwraig i gymryd lap cyn y diwedd.

“Eto dwi’n hapus, mae hon yn ail fedal unigol i fi o’r tymor ar ôl yr aur yn yr Iseldiroedd ym mis Tachwedd y llynedd.”

Pedwaredd i Oliva o Dîm USN yn y Keirin

Bu Lewis Oliva o Sir Fynwy bron a gorffen ar y podiwm ddoe (dydd Sul) mewn perfformiad dewr gyda’r ffeinal yn dangos y Keirin ar eu gorau, roedd rhaid iddo setlo am bedwaredd gyda Puerta Zapata o Golombia  yn gyntaf.

Yn ornest derfynol y penwythnos roedd Jon Mould a Sam Harrison o Team USN ar y trac a’i gilydd. Mi gymerodd  pum pwynt gwibio yn gynnar yn y ras 120 cilomedr ond English a Downey o’r Iwerddon enillodd y fedal aur.

Pumed i Gymru

Gorffenodd  Jon Mould o Dîm USN yn bumed yn y ‘Scratch’  dydd Sadwrn.

Gan ddychwelyd nôl i’r trac ar ôl cyfnod ar y lôn yn Awstralia gyda thîm JLT Condor mi fethodd allan ar fedal gyda Yauheni Karaliok o Felarws yn ennill y fedal aur.