Jack Marshman a Thiago Santos Llun: UFC/Euros Jones-Evans
Mae’r Cymro o Abertyleri, Jack Marshman wedi colli gornest MMA (campau milwrol cymysg) yn yr Ultimate Fighting Championship yng Nghanada.

Cafodd ei guro gan Thiago Santos o Frasil yn yr ail rownd yng Nghanada yn ei ail ornest ar lefel ucha’r gamp, ac fe lwyddodd Jack Marshman i lorio’i wrthwynebydd yn ystod ymosodiad peryglus.

Cafodd y Cymro ei gicio i’r llawr ar ddechrau’r ail rownd ar ôl llwyddo i ddal ei dir yn y rownd gyntaf.

Ond roedd cyfres o ergydion ffyrnig yn ddigon i ddod â’r ornest i ben ar ôl 2 funud 21 eiliad o’r ail rownd, a hynny ar ôl i Jack Marshman ei gael ei hun yn ddiymadferth ar lawr.

Fe geisiodd y Cymro godi i’w draed unwaith eto, ond erbyn hynny roedd y dyfarnwr wedi penderfynu bod yr ornest ar ben.