(Llun CC2.0)
Crafodd Stuart Bingham fuddugoliaeth yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng Nghaerdydd neithiwr, wrth iddo guro Judd Trump o naw ffrâm i wyth.

Roedd y ddau Sais yn gyfartal 8-8 ar ddechrau’r ffrâm dyngedfennol, ond fe ddaeth Stuart Bingham drwyddi i sicrhau ei fod yn codi’r tlws sy’n dwyn enw’r Cymro Ray Reardon, a gyflwynodd y tlws iddo fe.

Doedd dim un rhediad o gant neu fwy yn y gêm.

Aeth Stuart Bingham ar y blaen o bedair ffrâm i ddim ar ddechrau’r prynhawn, ac fe sicrhaodd rhediad o 87 yn y seithfed ffrâm fod ganddo fe fantais o 5-2 ar ddechrau ffrâm ola’r sesiwn.

Ond Judd Trump gipiodd y ffrâm olaf honno i roi llygedyn o obaith iddo fe ei hun ar ddechrau’r ail sesiwn neithiwr, a’r sgôr yn 5-3.

Enillodd y naill a’r llall un ffrâm yr un ar ddechrau’r sesiwn cyn i Judd Trump ennill y ddwy ffrâm ganlynol i unioni’r sgôr, 6-6.

Aeth Judd Trump ar y blaen ddwywaith wedyn, 7-6 ac 8-7.

Enillodd Stuart Bingham yr unfed ffrâm ar bymtheg i sicrhau y byddai’r gêm yn para hyd y diwedd, ac fe lwyddodd i groesi’r llinell i ennill ei dlws cyntaf ers iddo ddod yn bencampwr y byd yn 2015.

Dywedodd Stuart Bingham ar ddiwedd y noson ei fod yn teimlo’n “anhygoel”.

“O fynd ar ei hôl hi o 4-0, byddai llawer o bobol wedi chwalu ond chwarae teg i Judd, fe wnaeth e fy herio i ac ro’n i’n meddwl ei fod e’n drech na fi ym mhob ffordd.”

Wrth dderbyn y tlws gan Ray Reardon, ychwanegodd Stuart Bingham: “Gyda’r Tlws Ray Reardon newydd yma, mae e’n arwr ar y ddaear, does gyda ni ddim llawer o bobol sydd wedi bod yn bencampwr byd chwe gwaith, felly mae’n anrhydedd cael derbyn y tlws ganddo fe.”