(Llun: Euros Jones-Evans/UFC)
Fe fydd yr ymladdwr MMA (campau milwrol cymysg), Jack Marshman o Gymru’n mynd am ail fuddugoliaeth ar y lefel uchaf heno wrth iddo herio Thiago Santos o Frasil mewn gornest yng Nghanada.

Daeth gornest UFC (Ultimate Fighting Championship) – a buddugoliaeth – gyntaf yr ymladdwr 27 oed o Abertyleri yn erbyn Magnus Cedenblad o Sweden yn Belfast ym mis Tachwedd.

Ond fe fydd yn wynebu gwrthwynebydd o safon uwch y tro hwn, er bod Thiago Santos, sy’n 33 oed, wedi colli ei ddwy ornest ddiwethaf – yr unig ddwy golled yn ei chwe gornest ddiwethaf.

Dyma ornest gyntaf Jack Marshman yr ochr draw i’r Iwerydd ers 2013, ond mae’r cynhyrchydd teledu a’r arbenigwr ar MMA, Euros Jones-Evans wedi dweud wrth Golwg360 fod ganddo fe “siawns dda o ennill”.

Ychwanegodd: “Os bydd yn curo, fe fydd yn codi yn y rhengoedd.”

MMA yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru

Ynghyd â Brett Johns o Abertawe, mae Jack Marshman eisoes wedi helpu i roi Cymru ar y map yn y byd MMA, ac mae dyfodol disglair i’r gamp yng Nghymru, yn ôl Euros Jones-Evans.

“Mae’r sîn yn iach iaw nar hyn o bryd efo tri ymladdwr o Gymru. A gobeithio y bydd dau arall yn dod drwodd cyn diwedd y flwyddyn.”

Bydd yr ornest yn cael ei darlledu’n fyw ar BT Sport 2 am 12 o’r gloch heno.