Dau Sais fydd yn ymgiprys ar gyfer tlws Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng Nghaerdydd heddiw, wrth i Judd Trump herio Stuart Bingham.

Cyrhaeddodd Judd Trump y rownd derfynol ar ôl curo’r Albanwr Scott Donaldson o 6-3 yn y rownd gyn-derfynol, tra bod Stuart Bingham wedi rhoi crasfa o 6-0 i’w gydwladwr Robert Milkins yn ei gêm gyn-derfynol yntau.

Sgoriodd Judd Trump rediad o 131 yn ei ffrâm agoriadol, cyn i Scott Donaldson daro’n ôl i’w gwneud hi’n 4-3 o blaid y Sais.

Ond fe gaeodd ben y mwdwl ar y gêm gyda dwy ffrâm dda i orffen, gan gynnwys rhediad o 74 yn y ffâm olaf ond un.

Dau rediad o gant neu fwy gafodd Stuart Bingham, gan sgorio 127 yn ei ffrâm gyntaf a 101 yn ei ffrâm olaf.