Mae tri Sais ac un Albanwr wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yng Nghaerdydd heddiw.

Fe fydd Stuart Bingham yn herio Robert Milkins, a Judd Trump yn wynebu Scott Donaldson.

Yn rownd yr wyth olaf, roedd Stuart Bingham ar y blaen o 4-0 yn erbyn Stuart Carrington, cyn iddo golli tair ffrêm yn olynol, ond fe groesodd y llinell derfyn yn y ffrâm olaf.

Roedd Robert Milkins yn fuddugol o 5-2 yn erbyn Kurt Maflin yn ei gêm yntau.

Crafu buddugoliaeth wnaeth Judd Trump yn erbyn Barry Hawkins, a gafodd gyfle i ennill y gêm yn y ffrâm olaf cyn methu’r bêl felen.

Dydy Scott Donaldson, 22, erioed wedi mynd y tu hwnt i rownd 16 olaf un o’r prif gystadlaethau, ond fe enillodd ei le ymhlith y pedwar olaf yn dilyn buddugoliaeth swmpus o 5-0 yn erbyn Zhou Yuelong o China.

Trefn y gemau

Judd Trump v Scott Donaldson (1pm)

Stuart Bingham v Robert Milkins (7pm)