Llun: Gwefan Seiclo Cymru
Mae Seiclo Cymru wedi cyhoeddi’r pedwar seiclwr a fydd yn cynrychioli Tîm USN yng Nghyfres Cwpan y Byd Tissot yn Los Angeles.

Bydd Sam Harrison, Rachel James, Jon Mould a Lewis Oliva yn cystadlu yn ddiweddarach yn y mis yn rownd derfynol y gyfres.

Bydd y Pencampwr Cenedlaethol Lewis Oliva yn cystadlu yng nghystadleuaeth Keirin a Sbrintio’r Dynion tra bydd Rachel James o’r Fenni yn cystadlu ar ran y menywod. Bydd Jon Mould yn dychwelyd nôl i’r trac i’r ras Scratch a bydd Sam Harrison yn ymuno ag ef ar gyfer y Madison.

Bydd Elinor Barker yn cynrychioli Prydain yn Los Angeles gyda Manon Lloyd ac Emily Nelson yn lliwiau Prydain yn y drydedd rownd yng Ngholombia y penwythnos nesaf.

Dywedodd  y Cyfarwyddwr Perfformiad, Matt Cosgrove: “Cafodd Tîm USN ddechrau da i’r gyfres Cwpan y Byd 2016/17 yng Nglasgow gyda Sam a Lewis ar y podiwm yn dilyn perfformiadau cryf yn Apeldoorn.

“Mae Jon yn dod nôl o gyfnod ar y ffordd yn Awstralia a Seland Newydd gyda thîm JLT Condor lle enillodd gymal o’r New Zealand Cycle Classic, ac roedd Rachel wedi rhoi perfformiad da yn y Bencampwriaeth Genedlaethol gan ennill dwy fedal.

“Dim ond blwyddyn sydd i fynd tan Gemau’r Gymanwlad ac mae Cwpan y Byd yn rhoi cyfle i ni gystadlu yn erbyn cystadleuwyr o safon, a hefyd mesur  cynnydd y beicwyr trwy’r gaeaf.”