Rachel Atherton (Llun: Prifysgol Aberystwyth)
Roedd pencampwraig beicio mynydd o Ddyffryn Dyfi yn rhan o agoriad swyddogol campfa newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth.

Mae Rachel Atherton wedi ennill mwy o wobrau nag unrhyw feiciwr mynydd arall o wledydd Prydain yn hanes y gamp, a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r gampfa newydd.

“Mae’n wych cael y cyfleuster anhygoel hwn mor agos at gartref, mae popeth sydd ei angen arnaf yma ac rwy’n bwriadu treulio llawer o amser yma,” meddai.

Offer rhyngweithiol

Mae’r gampfa werth £250,000 ac mae’n cynnig cyfarpar digidol a rhyngweithiol wedi’i ddatblygu gan Matrix Fitness.

Mae’n galluogi defnyddwyr i ymarfer mewn amodau gwahanol, gan gynnwys rhedeg drwy’r Sahara, beicio yn yr Alpau neu ddringo adeilad tala’r byd yn Dubai.

“Mae’r buddsoddiad hwn wedi ein galluogi i roi sylw arbennig i sut mae’r offer wedi ei osod, gan sicrhau bod pob agwedd ar y profiad o ddefnyddio’r gampfa yn fwy cyfeillgar a chroesawgar,” meddai Darren Hathaway, Rheolwr Cyffredinol Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth.