Mae Andy Murray wedi cyfaddef iddo “gael trafferth dygymod” â chael ei alw’n ‘Syr’ o hyn ymlaen.

Cafodd y chwaraewr tenis o’r Alban ei urddo’n farchog yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd y Frenhines.

Dywedodd wrth y BBC ei fod yn “teimlo mwy fel Andy Murray”, ond ychwanegodd ei bod yn “anrhydedd fawr a dw i’n hapus”.

Cyfaddefodd ei dad-cu, Roy Erskine fod meddwl amdano’n ‘Syr’ yn “frawychus”.

Cafodd Andy Murray ei enwi’n Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn gan y BBC eleni am y trydydd tro ar ôl ennill Wimbledon am yr ail dro, a chadw ei afael ar ei deitl Olympaidd yn Rio.

Roedd e ar frig rhestr detholion y byd tenis ar ddiwedd y tymor.

Fel llysgennad Unicef yn y DU, mae’n derbyn yr anrhydedd am ei wasanaeth i’r byd tenis ac am ei waith elusennol.