Chris Coleman (Llun: Golwg360)
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman wedi derbyn OBE am ei wasanaeth i’r byd pêl-droed yn dilyn llwyddiant y tîm cenedlaethol yn Ewro 2016 eleni.

Arweiniodd y rheolwr o Abertawe ei dîm i rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth ryngwladol, y tro cyntaf ers 58 o flynyddoedd i’r tîm gyrraedd rowndiau terfynol un o’r cystadlaethau rhyngwladol.

Daw’r anrhydedd ddau ddiwrnod yn unig ar ôl iddo ymbellhau oddi wrth swydd rheolwr Abertawe yn dilyn diswyddo Bob Bradley.

Trefor Lloyd Hughes OBE

Mae cyn-Lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Trefor Lloyd Hughes wedi cyfaddef iddo wynebu cyfyng gyngor cyn derbyn OBE am ei wasanaeth i’r byd pêl-droed yn Ynys Môn.

Dywedodd fod rhywrai eraill yn haeddu’r anrhydedd “dipyn mwy na fi” ac “oni bai amdanyn nhw, faswn i ddim yma heddiw”.

Cafodd ei ethol yn aelod o Gyngor Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 1989, ac mae e wedi bod yn Is-Lywydd ac yn Drysorydd yn y gorffennol.

Sêr Olympaidd a Pharalympaidd

Cafodd nifer o sêr y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Rio eu hanrhydeddu eleni.

Derbyniodd y beicwraig Elinor Barker, para-athletwraig y waywffon Hollie Arnold, y nofiwr Aaron Moores, yr hwylwraig Hannah Mills, y beiciwr Owain Doull a’r chwaraewr tenis bwrdd Rob Davies MBE yr un.

Ymateb

Yn dilyn y cyhoeddiad am yr anrhydeddau, nid pawb sy’n hapus i weld rheolwr Cymru’n derbyn yr OBE: