Mae hyfforddwraig y ceffyl Mountainous wedi dweud ei bod hi’n gobeithio am law ar gyfer Grand National Cymru eleni.

Bydd y ceffyl sydd wedi’i hyfforddi gan Kerry Lee yn mynd am drydedd buddugoliaeth yn y ras yng Nghas-gwent ar 27 Rhagfyr.

Ac mae hi’n credu y gallai’r glaw fod o fantais i Mountainous, oedd yn arfer cael ei hyfforddi gan dad Kerry Lee, Richard.

Enillodd y ceffyl y ras fawr ar ei gynnig cyntaf yn 2013 ac unwaith eto’r llynedd.

Mountainous oedd y ceffyl cyntaf ers Bonanza Boy (1998 a 1989) i ennill y ras ddwywaith, a’r ceffyl 11 oed cyntaf i ennill y ras ers Happy Spring yn 1967.

Mae disgwyl i Kerry Lee fod yn hyfforddi dau geffyl arall yn y ras, Bishops Road a Goodtoknow.

Dywedodd: “Dw i jyst eisiau rhagor o law. Dw i ddim wedi siarad â Keith [Ottesen, clerc y cwrs] i weld sut mae’r tir yno ar hyn o bryd.

“Ry’n ni wedi cael tipyn o law adref a dy’n ni ddim yn bell o Gas-gwent, felly dw i’n gobeithio ei fod e wedi cwympo yno hefyd.

“Mae’r ceffylau i gyd yn dda iawn a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at y ras.”