Mae Devils Caerdydd wedi canslo ras gŵn ddadleuol yn dilyn pryderon gan gefnogwyr.

Roedd y clwb hoci iâ wedi gwahodd cefnogwyr i ddod â’u cŵn i’r stadiwm heno lle mae’r Devils yn herio’r Sheffield Steelers.

Ond mae’r digwyddiad wedi’i ganslo ar ôl sylwadau negyddol a phryderus ar wefannau cymdeithasol.

Mewn datganiad, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y clwb, Todd Kelman: “Dydyn ni erioed wedi cael y fath ymateb – da neu ddrwg – i ymgyrch hyrwyddo.

“Roedd llawer o bobol am i’w cŵn gymryd rhan ond llawer hefyd yn mynegi pryderon am ddiogelwch yr anifeiliaid.

“Dydy hi ddim yn werth gwneud os yw pobol yn cael eu hypsetio am y peth, felly dydyn ni ddim yn mynd i’w wneud e.”

Ychwanegodd nad oedd y clwb yn gorfodi’r cŵn i gymryd rhan at “ddibenion adloniant”, ond dywedodd ei fod yn deall y pryderon.

Dywedodd ei fod yn “syniad oedd yn swnio’n dda yn fy mhen ar y pryd”, gan ychwanegu â’i dafod yn ei foch y “byddai’n well i fi ganslo’r rasys babis ar Ddydd Calan hefyd”.