Jade Jones Llun: Gwefan British Taekwondo
Jade Jones, enillydd dwy fedal aur ym maes Taekwondo, yw Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2016.

Mae’r ferch 23 oed o’r Fflint yn ennill y teitl am yr eildro yn dilyn pleidlais gan y cyhoedd.

Fe wnaeth hi ennill ei hail fedal aur yng Ngemau Olympaidd Rio, gan amddiffyn yr aur enillodd hi yng Ngemau Llundain yn 2012. Roedd hi hefyd yn fuddugol yn y pwysau -57 cilogram ym Mhencampwriaethau Ewrop eleni.

Y pêl-droediwr Gareth Bale ddaeth yn ail, gyda’r seiclwraig Elinor Barker yn drydydd ar ôl iddi hithau hefyd ennill medal aur yn Rio.

‘Anhygoel’

Cafodd y wobr ei chyflwyno mewn seremoni yng Nghaerdydd neithiwr.

Dywedodd Jade Jones wrth gamu i’r llwyfan: “Mae hi’n anhygoel ennill, yn enwedig gan ei bod hi’n gamp sydd ddim yn cael cymaint â hynny o sylw.

“Roedd cymaint o enwau mawr ac fe gafodd Cymru flwyddyn mor dda, dydw i ddim yn gallu disgrifio’r teimlad.”

Y pump arall oedd ar y rhestr fer oedd Hollie Arnold, Owain Doull, Aled Sion Davies, Hannah Mills a Lee Selby.