Gareth Bale yn dathlu yn ystod Ewro 2016 Llun: PA
Fe fydd enillydd Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd nos Lun.

Y cyhoedd sy’n penderfynu pa athletwr sydd wedi haeddu’r teitl, ar ôl i banel o feirniaid benderfynu pa athletwyr wnaeth greu argraff yng Nghymru eleni.

Yr wyth enw ar y rhestr fer oedd Hollie Arnold, Gareth Bale, Elinor Barker, Aled Sion Davies, Owain Doull, Jade Jones, Hannah Mills a Lee Selby.

Mae’r bleidlais wedi cau erbyn hyn a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni yn Neuadd Hoddinott y BBC sy’n cychwyn am 7:30yh heno.

Bydd 12 o wobrau eraill yn cael eu rhoi ar y noson gan gynnwys Gwirfoddolwr y Flwyddyn a Thîm y Flwyddyn.