Brett Johns (ar y dde) a'i wrthwynebydd Kwan Ho Kwak (Llun: Euros Jones-Evans)
Mae Brett Johns a Jack Marshman wedi rhoi crefftau ymladd cymysg – neu MMA (mixed martial arts) ar y map yng Nghymru yn dilyn buddugoliaethau yn Belfast neithiwr, yn ôl un sydd â pherthynas agos â’r ymladdwyr.

Sicrhaodd Johns o Abertawe fuddugoliaeth unfrydol dros Kwan Ho Kwak o Dde Corea, tra bod Jack Marshman o Abertyleri wedi curo Magnus Cedenblad o Sweden yn ei ornest yntau.

Mae’r ddau yn cadw eu record ddi-guro yn yr UFC, sef prif gystadleuaeth y gamp ar raddfa fyd-eang.

Yn ôl Euros Jones Evans, cyfarwyddwr ffilm o Abertawe sy’n ymarfer gyda’r ymladdwyr yng nghampfa Chris Rees yn y ddinas, roedd hi’n “ffeit galed” rhwng Johns a Kwan a barodd dair rownd o bum munud yr un.

Hon oedd gornest gyntaf o bedair sy’n rhan o gytundeb Johns gyda’r UFC.

Dywedodd Euros Jones-Evans wrth Golwg360: “Dw i’n falch iawn fod Brett Johns o Academi Chris Rees wedi ennill ar y llwyfan mwyaf yn y byd. Mae’n dangos bod talent yng Nghymru.

“Ar yr un cerdyn heno roedd Jack Marshman, ac mi wnaeth o ennill heno, ac ennill y bonws o $50,000 am ‘ergyd’ y noson.”

Mae cwmni ffilm Tanabi, o dan arweiniad Euros, wedi bod yn cefnogi’r ddau “ers y dyddiau cynnar”, meddai, gan ychwanegu bod llwyddiant y ddau yn “dangos bod unrhyw beth yn bosibl”.

Mae’r cwmni wedi bod yn dilyn hynt a helynt eu gyrfaoedd ar gyfer rhaglen arbennig i S4C.

Ychwanegodd: “Mae’n wych i’r gamp. Mae pawb nawr yn gwybod am yr MMA yng Nghymru, a gobeithio y bydd yn dod ag MMA yn brif ffrwd.

“Mae’r bois yn haeddu llwyfan gan eu bod yn rhoi popeth i mewn i’r gamp.”