David Brailsford (Llun: Tim Sky)
Mae pwyllgor seneddol wedi gofyn i bennaeth tîm seiclo Team Sky, y Cymro, Dave Brailsford, ateb cwestiynau fel rhan o’u hymchwiliad i’r defnydd o gyffuriau o fewn y gamp.

Mae disgwyl i Bwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan ei holi am roi eithriad i Bradley Wiggins er mwyn iddo allu cymryd cyffur triamcinolone at alergedd paill sy’n effeithio ar ei asthma.

Cafodd Wiggins sawl brechlyn cyn cystadlu yn y Tour de France yn 2011 a 2012, a’r Giro d’Italia yn 2013.

Ond fe gafodd ei feirniadu am hynny ar ôl i hacwyr cyfrifiaduron o Rwsia gael mynediad i fanylion meddygol personol athletwyr ym mis Medi.

Roedd Bradley Wiggins wedi mynnu nad oedd yn ceisio ennill mantais drwy gymryd y cyffur.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor seneddol, Damian Collins wrth bapur newydd y Times: “Mae Syr Dave Brailsford yn un o’r prif enwau yn seiclo Prydain dros y 10 mlynedd diwethaf ac roedden ni’n credu ei bod yn bwysig siarad â fe fel rhan o’n hymchwiliad i’r ffordd y mae’r gamp wedi ymdrin â materion gwrth-gyffuriau a moeseg ynghylch eithrio profion (TUE).”

Mae disgwyl i’r pwyllgor ei holi am becyn meddygol a gafodd ei roi i Team Sky yn 2011 yn fuan cyn i Bradley Wiggins gael ei eithrio am y tro cyntaf.

Fe allai’r pwyllgor hefyd holi cadeirydd Seiclo Prydain Bob Howden a phennaeth comisiwn moeseg seiclo’r sefydliad, George Gilbert.

Bydd llywydd Asiantaeth Gwrth-gyffuriau’r Byd (WADA), Syr Craig Reedie yn rhoi tystiolaeth i’r pwyllgor ar Ragfyr 19.