Mae teyrngedau wedi eu rhoi i’r “arwr herfeiddiol”, Arnold Palmer, yn ei wasanaeth coffa yn Pennsylvania.

Bu farw’r golffiwr yn 87 oed yn Pittsburgh ar Fedi 25.

Yn dilyn angladd preifat, mae gwasanaeth coffa cyhoeddus wedi’i gynnal, lle daeth llu o chwaraewyr a chyn-chwaraewyr i dalu teyrnged. Yn eu plith roedd Phil Mickelson, Rickie Fowler, Bubba Watson, Lee Trevino, Tom Watson a Nick Faldo.

Ymhlith y rhai fu’n rhoi teyrngedau yn y gwasanaeth roedd cyn-gomisiynydd taith yr LPGA Charlie Meacham, comisiynydd presennol taith yr LPGA Tim Finchem, ei ŵyr Sam Saunders, Llywydd y Ffederasiwn Golff Rhyngwladol Peter Dawson, cyn-brif weithredwr clwb yr R&A Peter Dawson a’r darlledwr Jim Nantz.

Cafwyd cân gan y canwr gwlad, Vince Gill a theyrnged gan y chwaraewraig golf Annika Sorenstam.

“Arwr y dyn cyffredin”

Yn ei deyrnged yntau, dywedodd un o fawrion y byd golff, Jack Nicklaus: “Daeth Arnold pan fo’i angen e fwyaf ar y byd golff. Pan wnaeth y teledu amgyffred y gamp, roedd ganddi arwr herfeiddiol, Arnold fel wyneb y gamp.

“Fe oedd arwr y dyn cyffredin, ac fe chwaraeodd e mewn modd y gallen ni i gyd ei werthfawrogi ac roedd e at ddant pawb.

“Os oedd problem, ro’n i’n gwybod fod Arnold yn fy nghefnogi ac ro’n i’n ei gefnogi fe… efallai bod rhaid i fi frwydro yn erbyn ‘Byddin Arnold’ yn gynnar iawn ond wnes i erioed orfod brwydro yn erbyn Arnold Palmer… Fe oedd ‘Brenin’ ein camp, a dyna fydd e.”

Ychwanegodd ei fod e’n teimlo “colled anferth” ei ffrind yn dilyn cyfeillgarwch a barodd dros 60 o flynyddoedd, ond bod “atgofion yn glustogau bywyd”.

Enillodd Palmer 62 o deitlau ar daith yr USPGA, gan gynnwys pedair siaced werdd Meistri’r Unol Daleithiau, dwy Bencampwriaeth Agored ac un Pencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau.

Dywedodd ei ŵyr Sam Saunders nad oedd gwahaniaeth rhwng y dyn golff a’r dyn teulu.