Mae teyrngedau yn cael eu rhoi gan fawrion y byd golff yn dilyn marwolaeth yr Americanwr Arnold Palmer yn 87 oed.

Roedd yn cael ei ystyried yn un o golffwyr gorau’r byd ar ôl iddo ennill saith cystadleuaeth fawr ac yn cael ei adnabod am ei swing bwrerus a’i wên lydan. Roedd hefyd yn cael ei adnabod fel ‘Y Brenin’ gan rai.

Mae adroddiadau’n dweud fod y tad i ddau o blant wedi marw yn dilyn trafferthion ar ei galon mewn ysbyty yn Pittsburgh yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd y golffiwr Rory McIlroy amdano: “Roedd yn arloeswr i’n camp ni a bydd yn cael ei gofio am byth.”

Ac fe ddywedodd Tiger Woods: “Fe fydd hi’n anodd dychmygu golff hebddo’ch chi.”